|
Wyt ti eisiau gyrru mwy o draffig at dy wefan? Os nag oes gen ti
wefan wyt ti eisiau hyrwyddo dy fusnes neu sefydliad ar y we?
Pwrpas y Cyfeiriadur Cymraeg yw hyrwyddo busnesau, mudiadau a
sefydliadau sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Bydd yn dod yn fan canolog ar gyfer chwilio am wasanaeth drwy gyfrwng y
Gymraeg, a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg y myd busnes a bywyd
cyhoeddus.
Mae modd i ti ychwanegu cofnod sy'n cynnwys gwybodaeth gyswllt a manylion drwy roi clec fan hyn. Bydd gweinyddwyr y safle wedyn yn darllen dy gyfraniad cyn ei ychwanegu at y wefan. Cofia:
- lenwi bob blwch gyda *
- gyflwyno côd diogelwch ( i atal spamwyr)
- yn y blychau meta rho eiriau allweddol sy'n disgrifio dy fusnes neu sefydliad ee saer cloeon
- os wyt ti'n rhestru gwefan fel rhan o dy gofnod gofynnwn i ti roi côd ar dy wefan sy'n cysylltu nôl at y wefan hon
Bydd dy hysbyseb wedyn yn dangos i ti faint o bobl sydd wedi ei
ddarllen, ac felly faint o gwsmeriaid posib sydd wedi cael dy fanylion
o'r cyfeiriadur Cymraeg.
Os mai yma i chwilio am fusnes neu wasanaeth Cymraeg wyt ti galli
di naill ai bori drwy'r cofnodion neu ddefnyddio'r blwch chwilio i gael
hyd i beth rwyt ti'n edrych amdano.
Diolch yn fawr.
Côd i roi botwm ar dy wefan
Galli di naill ai roi botwm i gysylltu nôl â gwefan
llearywe.com neu roi dolen syml. I gael y côd i wneud hyn clicia ar y
ddolen hon: cod
Cofia son dy fod wedi ffeindio'r manylion cysylltu yn y Cyfeiriadur Cymraeg - llearywe.com!
|
|